Taith Kevin i Ffrainc a nôl












Mae Kevin yn codi ymwybyddiaeth o Owain Lawgoch, sy'n cael ei adnabod yn Ffrainc fel Yvain de Galles. Ym Mortagne-Sur-Gironde, yn ne orllewin Ffrainc, mae cofeb i'r cymeriad pwysig hwn o hanes Cymru. Mae Kevin am roi cyfle i benderfynu a ddylai bod cofeb yng Nghymru, i bobl Cymru ac i unrhyw un sydd â diddordeb yng Nghymru.

Mae Kevin yn bwriadu seiclo pellter anhygoel o 1600 milltir o dde Cymru i'r gofeb yn Frainc ac yn ôl. Trwy wneud hyn, mae e'n gobeithio codi arian i gofeb yng Nghymru. Does dim penderfyniad eto ar ble yn union.

Mae Kevin hefyd am godi arian i Parkinsons UK, gan fod yr achos hon yn agos i'w galon.

Yn ogystal â'r daith, mae Kevin wedi cyfansoddi cân am Owain Lawgoch, a'i chyhoeddi. Gallwch wrando ar y gân trwy wasgu'r botwm isod.